Page images
PDF
EPUB

ac yn bwrw ei thaclau i'r môr. Nid oes na haul na lloer, na ser, yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnynt, a phob gobaith y byddent gadwedig wedi ei ddwyn ymaith. Yn y cyfyngder mawr, mae angel Duw yn sefyll yn ymyl Paul, ac yn dywedyd wrtho, "Nac ofna Paul, rhaid i ti sefyll gerbron Cæsar.' Mae hyn yn sicrwydd iddo y byddai iddo fyned i dir yn ddiangol. Y mae Paul yn sefyll yn eu canol ac yn eu cysuro, trwy hysbysu iddynt na byddai colled am einioes neb o honynt, ond am y llong yn unig. Ar y bedwaredd nos ar ddeg maent yn morio yn Adria, ac yno y mae y morwyr yn tybied eu bod yn neshau i ryw wlad. Dranoeth mae y llong yn syrthio ar le deufor-gyfarfod. Mae y llong yn myned yn ddrylliau, a'r morwyr oll yn myned ar ystyllod a darnau o'r llong i dir yn ddiangol. Gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. Mae y barbariaid yn dangos mwyneidd-dra nid bychan iddynt. Mae Paul yn casglu llawer o friw-wydd, ac yn eu gosod ar y tân; mae gwiber yn dyfod allan o'r gwres, ac yn glynu wrth ei law. Mae y barbariaid, wrth weled y bwystfil yn nghrog wrth ei law, yn tybied yn sicr mai llawruddiog oedd Paul, ac na adawai dialedd iddo fyw; mae yntau yn ysgwyd y bwystfil i'r tân, ac heb gael yr un niwed, yr hyn oedd yn destyn syndod aruthr i'r barbariaid. Mae penaeth yr ynys, a'i enw Publius, yn eu lletya dridiau yn garedig. Mae Paul yn iachau tad Publius, yr hwn oedd yn glaf o gryd a gwaedlif. Mae y son am hyn yn myned ar led; mae y rhai oedd a heintiau arnynt yn yr ynys yn dyfod ato, ac yn cael eu hiachau. Wedi tri mis aethant ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a auafasai yn yr ynys, "a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux." Yna maent yn morio i Syracusa, ac yn aros yno dridiau. Oddi yno daethant i Rhegium, a'r ail ddydd i Puteoli, lle y cawsant frodyr, ac y dymunwyd arnynt aros gyda hwynt saith niwrnod, ac felly y gwnaethant. Daeth y fordaith arw i ben, wedi bod agos i haner blwyddyn yn hwylio yn erbyn y gwyntoedd a'r tonau gorwyllt, a chael colled fawr. Maent yn awr a'u traed ar dir Maent yn Ital. yr cychwyn ar draed o Puteoli i Appii-fforum, ac oddi yno i'r Tair-tafarn, lle yr oedd brodyr wedi dyfod yno i'w cyfarfod. Oddi yno maent yn myned i Rufain. Wedi cyrhaedd y ddinas, mae y canwriad yn rhoddi y carcharorion i fyny i ofal pen-cadben y llu, ond cenadwyd i Paul gael aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef. Yna y mae Paul yn galw am yr Iddewon-yn adrodd wrthynt ei helynt, ac yn ymresymu llawer a hwynt, a llawer o honynt yn credu. Fel hyn y terfyna Luc ei hanes: "A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dy ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb ar oedd yn dyfod i mewn ato, gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd." Yn ystod y ddwy flynedd yma o'i garchariad yn Rhufain, pregethodd deyrnas Dduw i bawb, yn enwedig i'r cenedloedd. Yma hefyd yr ysgrifenodd amryw epistolau, sef yr epistol at Philemon, y Colossiaid, yr Ephesiaid, a'r Philippiaid. Mae ei hanes ysgrythyrol yn terfynu gyda dechreu y drydedd flwyddyn o'i garchariad yn Rhufain; yn mhellach nid oes genym ond traddodiad i'n hysbysu am dano. Mae amryw draddodiadau, y rhai sydd yn amheus, am eu bod yn gwrthddyweyd eu gilydd; nis gall ond un felly fod yn wirionedd. Tybia rhai mai y carchariad hwn a sonia Luc yw y di

weddaf, ac iddo gael ei roddi i farwolaeth fel merthyr gan yr ymher- awdwr yn Rhufain. Ereill a farnant iddo gael ei ryddhau o'r carchar y tro hwn, ac iddo ymweled ag amryw leoedd drachefn ; ac ar ei deithiau, iddo ysgrifenu y llythyr cyntaf at Timotheus, a'r epistol at Titus, ac iddo gael ei ail garcharu yn Rhufain, lle yr ysgrifenodd ei ail epistol at Timotheus ychydig cyn iddo gael ei ferthyru gan Nero. Mae adolygu y gwahanol farnau osoda traddodiadau ger ein bron, yn gofyn cryn amser a gofod; ac am yr ofnwn ein bod eisoes wedi bod yn rhy faith, gadawn hwynt o'r neilldu yn bresenol. Yr ydym wedi myned dros y rhan sydd wirionedd anffaeledig am ei deithiau, ac wedi dilyn camrau dyn Duw trwy wledydd a dinasoedd, a thros foroedd geirwon, ac mewn carcharau. Yr ydym wedi cael llawer o bleser wrth syllu arno yn mhob man-llawenhau wrth weled y llwyddiant arbenig fu ar ei lafur caled, y sel oedd ynddo, y gwroldeb ddangosodd, a gofal rhagluniaeth Duw am dano yn ei holl beryglon. Disgyned deuparth ei ysbryd ar holl genadau hedd yr oes hon. Ymdrechodd ymdrech deg, rhedodd ei yrfa, gorphenodd ei waith, cadwodd y ffydd; ac yn angeu gwelai fod coron cyfiawnder yn nghadw iddo yr ochr draw. Mae heddyw yn gwisgo y goron, ac yn canu anthemau y groes, heb ofni gelyn na charchar; mae gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.

TRIOEDD YNYS PRYDAIN.

Y TRIOEDD HANESYDDOL.

CYNWYSIAD.

I. Trioedd yn nghylch Adda, Priaf, ac ereill. II. Trioedd yn nghylch Ynys Prydain a'i hanes foreuol. III. Trioedd yn nghylch Trigolion yr Ynys a'u hanes yn y cyfnodau Rhufeinig a Seisnig. IV. Trioedd yn nghylch Hu Gadarn, ac ereill. V. Trioedd yn nghylch Prydain ab Aedd Mawr, ac ereill VI. Trioedd yn nghylch Dyfnwal Moelmud, ac ereill. VII. Trioedd yn nghylch teulu Llyr Llediaith: 1. Llyr Llediaith ei hun. 2. Bran ab Llyr. 3. Caradoc ab Bran. 4. Manawyddan fab a Bronwen ferch Llyr. VIII. Trioedd yn nghylch y Brenin Arthur, ei Lys, ei Wragedd, a'i Farchogion. IX. Trioedd yn nghylch enwogion milwrol ereill. X. Trioedd yn nghylch Beirdd, Llenorion, a Chelfyddydwyr. XI. Trioedd Chwedleuol. XII. Trioedd y Meirch. ATTODIAD: Ychwanegiadau o Lyfr Paul Pantow, ac Ysgrifau Iolo.

EGLURHAD.

Sylwadau yr awdwr yw y rhai sydd mewn cromfachau fel yma, (h.y., Rhoddir y cwbl o'r Trioedd yn eu hen orgraff, heb gyfnewid un lythyren. Sylwer fodv ac u yn cael eu defnyddio yn lle f, megys yn y gair "a gauas," sef a gafodd, ond fod ƒ yn ei sain gyffredin yn niwedd geiriau. Mae y gramadeg hefyd yn wahanol, gan nad yw y terfyniad berfawl odd yn ymddangos yn fynych ynddynt; ond yn hytrach as, es, is, ws, &c., megys rhoddes, beris, &c. Yn y Trioedd henaf, gwelir k yn nechreu geiriau, ac c yn eu diwedd; ond mae hwn yn anaml yn yr ail gyfres; ac nid oes un enghraifft yn y drydedd. Nod arall yw hwn, nad yw dd ond yn anfynych yn yr ysgrif henaf, tra mae d, megys yn "oedynt" (Rhif 1), yn lle dd, a t yn lle d, fel yn "kedernit."

1. ADDA, PRIAF, AC EREILL.

I. (1) Tri dyn a gavas kedernit Adaf, Erculf Gadarn, ac Ector Gadarn, a Sampson Gadarn. Kyn gadarnet oedynt yll tri ac Adaf ehun.

Erculf oedd Hercules, yr arwr Groegaidd. Ector oedd Hector, fab Priaf, prif amddiffynwr Caer Droia. Mae Samson yn ddigon adnabyddus.

II. (1) Tri dyn a gauas (b.y., a gafodd,) pryt Adaf, Absalonn ab Dauyd, a Jason vab Eson, a Pharis vab Priaf. Kyn decket oedynt yll tri ac Adaf ei hun.

Mae Absalom yn adnabyddus. Arwr Groegaidd oedd Jason, a brawd Hector oedd Paris.

III. (1) Tri dyn a gauas doethineb Adaf, Cado hen, a Beda, a Sibli ddoeth. Kyn doethynt (h. y., cyn ddoethed) oedynt eill tri ac Adaf ehun, (h. y., ei hun.)

Cado hen oedd Cato y doethawr Rhufeinig. Beda oedd yr hanesydd Seisnig a elwir Venerable Bede. Ysgrifenodd Hanes Eglwysig Ynys Prydain yn Lladin, hyd ei ddyddiau ef ei hun. Bu farw O.C. 731. Sibli Ddoeth, merch Priaf o Hecuba, sydd mewn golwg yma; ond tebygaf mai y broffwydes Rufeinig a elwid y Sibyl, a gynhyrfodd y crybwylliad. Y mae cyfansoddiad a elwir Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth yn y Llyfr Coch, t. d. 568, o fewn ugain t. d. i'r Triad dan sylw.

IV. (1) Teir gwragedd a gauas pryt Eua, (h.y., Efa,) yn trithraean: Diodema gordderch (h.y., gordderch wraig,) Eneas ysgwydwyn, ac Ellen uannawc, (b.y., fannog, glodfawr,) y wreic y bu distriwedigaeth Tro (h.y., Caer Droia) drwy y phen, a Pholixena verch Priaf, hen vrennhin Tro.

Nid oes nemawr yn wybyddus am Diodema. Un o wroniaid Caer Droia oedd Eneas, a gorhendad y ffug-flaenor Brutus, yr hwn, yn ol Nennius, Sieffre, a'r hen chwedlau Prydeinig, a boblogodd yr ynys hon gyntaf. Gwraig Menelaus, brenin Argos, yn ngwlad Groeg, oedd Elen, neu Helen. Yr oedd y fenyw hon yn hynod am ei thegwch a'i glendid; ac achos rhyfel a dystryw Caerdroia, oedd i Paris ei dwyn oddiar ei gwr. Rhoddwyd Polixena i farwolaeth gan Achilles, y

blaenor Groegaidd.

I iawn ddeall y cyfeiriadau uchod, rhaid darllen Iliad Homer, Eneid Virgil, a Metamorphoses Ovid; a chan fod y ddwy flaenaf, y rhai, yn nghyd a Choll Gwynfa John Milton, a gyfrifir yn brif arwrgerddi y byd, i'w cael yn rhad mewn cyfieithadau Seisonaeg, dylai pob Cymro darllengar fod â hwy yn ei feddiant.

II. YNYS PRYDAIN A'I HANES FOREUol.

V. (2) Tri henw yr ynys hon. Y cyntaf cyn ei chyfanneddu y gelwit hi, Clas Metdin (Meitin, h.y., mor-gylchynol, mewn ysgrif arall). Wedi ei chyfanneddu y gelwit hi, Y Vel Ynys, ag wedy ei goresgyn o Vryt (h.y., gan Brutus) y dodes arni Ynys Bryt.

(3) A gwedi gyru gwledigaeth arni y gan Prydain ab Aedd Mawr y doded arni Ynys Prydain. Ac nid oes dylyed i neb arni namyn i genedl y Cymry, canys hwy a'i goresgynasant gyntaf, a chynn no hynny nid oedd neb o ddynion yn byw ynddi, eithr llawn Eirth, a Bleiddiau, ac Efeinc, (h.y., Beavers,) ac ychain bannog ydoedd.

Hefyd, yn y 15fed canrif, dechreuwyd ei galw y Wen Ynys, yr hwn enw sydd gyfieithad o Albion; ond y mae yr enw hwn yn un o'r Brutiau, ac yn ngweithiau Lewys Glyn Cothi; ond nid yn y Trioedd. Llawer o ymrafael sydd yn nghylch tarddiad yr enw "Britain." Buasai y sylwadau uchod yn eithaf boddhaol, oni buasai mai personau dychymygol yw Brutus a Phrydain. Perthynai yr enw "Brython" i'r bobl cyn eu dyfodiad o'r Cyfandir; a chafodd yr ynys ei henw oddiwrth y bobl, nid oddiwrth un person unigol.

VI. (2) Teir prif rann Ynys Prydain: Lloegr, Cymru, a'r Alban, sef yw hyt yr Ynys honn o Benrhyn Blathaon ym Mhrydyn, (h.y., Caithness yn Scotland,) hyd ym

Mhenrhyn Penwaeth yg Hernyw, (h.y., Penwith yn Nghernyw, sef Cornwall,) naw cant milltir. Ai llet o Griccyll ym Mon hyt yn Soram, (h.y., Shoreham yn agos i Brighton,) pump cant milldir yw hynny.

A hi a gynhelir tan un goron a thair talaith, ag yn Llundain gwisgo y goron, ag ym Mhenryn yn y gogledd un o'r taleithiau, arall yn Aberffraw, ar 3dd (h.y., y drydedd,) ynghernyw, (h.y., yn Nghernyw.)

(3) Tair Prif Ardal Ynys Prydain: Cymru, Lloegr, a'r Alban, a Braint Teyrnedd a ddylid i bob un o'r Tair. A than Unbennaeth a Rhaith Gwlad ai gwladoler, herwydd Dosparth Prydain ab Aedd Mawr, ac ar Genedl y Cymry y mae dodi yr Unbennaeth wrth Raith Gwlad a Chenedl, herwydd Braint a Dylyed gyssefin; ag yn nawdd hynn o ddosparth y dylid Teyrnedd yn mhob Gwlad yn Ynys Prydain, ac yn nawdd Rhaith Gwlad pob Teyrnedd: sef achos hyny y dywedir ar ddihareb, Trech Gwlad nag Arglwydd.

Gall y Triad cyntaf fod mor hen ag amser Edward I., tua diwedd ei deyrnasiad, gan mai y pryd hyny yn unig y darostyngwyd Ysgotland i stad o ddibyniaeth ar goron Llundain. Ysgydwyd y iau ymaith gan Robert Bruce, yn oes Edward II.; ac o hyny hyd yr undeb dan Iago y Chwechfed o Ysgotland a'r Cyntaf o Loegr, cadwodd yr Alban ei hannibyniaeth. Yn yr un cyfnod hefyd y darostyngwyd tywysogion Cymru i'r un cyflwr o haner annibyniaeth; ac y mae yn deilwng o sylw fod yr amgylchiadau hyn yn cael eu cadw mewn cof hyd y dyddiau presenol. Darostyngwyd Cornwall, neu Gernyw, o flaen Cymru ac Ysgotland; a'r ffaith hono sydd yn achosi y gwahaniaeth yn nheitlau breninoedd Prydain Fawr. Mae mab hynaf i frenin Prydain Fawr yn Ddug Cernyw (Duke of Cornwall) ar ei enedigaeth; ond nid yw yn Dywysog Cymru, gan fod creadigaeth neillduol yn ofynol i hyny. Fel enghraifft, yr oedd y Tywysog Arthur, mab hynaf Harri VII., yn dair blwydd oed pan y crewyd ef yn Dywysog Cymru; ac ar farwolaeth Arthur, gwnaethwyd ei frawd Harri, wedi hyny Harri VIII., yn Dywysog Cymru, pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed.

Am y llall, rhaid dyweyd nad yw yn meddu un gradd o deilyngdod hanesyddol; ac nid yw ond ymdrech i briodoli egwyddorion y British Constitution i'r oesoedd cyn Crist. Gallasai gael ei gyfansoddi yn nheyrnasiad Elizabeth, ond, yn ol ein barn ni, nid yn hir cyn hyny. Os creffir ar yr orgraff, gwelir ei bod yn fwy diweddar na'r llall, ac yn fwy cydweddol â Gramadeg Dafis o Fallwyd, O.C. 1625. Cadwed y darllenydd y sylw olaf yma mewn cof, gan fod Trioedd y drydedd gyfres oll yn yr un orgraff ddiweddar.

VII. (2) Teir prif afon Ynys Prydain: Temys, Hafren, a Hymyr. A their prif Aber a deugaint a chant y sydd ynddi. A phedwar porthfa ar ddeg a deugaint. Ag wyth ar ugaint o brif gaerydd, nid amgen,—

1. Caer Alelut

2. Caer Efrawc

3. Caer Geint

4. Caer Wyrangon

5. Caer Lundein

6. Caer Lirion

7. Caer Golun

8. Caer Loyw
9. Caer Seri

10. Caer Wynt

h.y., Dunbarton yn Scotland

York

Canterbury

Worcester

London
Leicester
Colchester ?
Gloucester

Caer Ceri-Cirencester ?
Winchester

[blocks in formation]

Nennius, yn y degfed canrif, oedd y cyntaf a gofnododd yr wyth Caer ar ugain, a hanfodent yn yr ynys dan lywodraeth y Rhufeiniaid. Mae y ffaith fod cymaint o Gaerau ardderchog yn yr ynys, a llawer iawn o ddinasoedd ereill, yn profi fod gradd uchel o wareiddiad yn mhlith y trigolion yn y cyfnod Rhufeinig, sef o O.C. 43 hyd 443; ond mae llawer o honynt yn awr ar goll, heb gymaint a'u lleoedd hwynt yn ddigon adnabyddus; ac yn y gwahanol ysgrifau o waith Nennius, mae hyd y nod yr enwau yn annealladwy. Yn yr un modd, mae copiau o'r Trioedd yn enwi saith Caer yn ychwaneg, sef,

[blocks in formation]

Enwa Nennius amryw o Gaerau ereill, megys,—

35. Caer Faddon

[blocks in formation]

(3) Tair prif afon ynys Prydain: Hafren yng Nghymru, Tain (h.y., y Thames) yn Lloegr, a Hymyr yn Neifr a Bryneich.

Hen enwau siroedd Northumberland, Durham, a York, yw Deifr a Bryneich: mae olion Deifr yn yr enw Dur-ham. Y Bryneich, neu Brigantes, a roddasent ei henw i Bernicia, sef Northumberland. Hymyr yw yr afon Humber.

« PreviousContinue »